"i'r mynydd a'r mannau anghysbell" Thomas Richards, Y Wern 1948 | llanfrothenacroesor.org |
CYNGOR CYMUNED LLANFROTHEN - Cyfarfod Blynyddol nos Lun 15 Tachwedd 2021
Cynhelir cyfarfod blynyddol Cyngor Cymuned Llanfrothen, nos Lun, 15 Tachwedd 2021, am 7:30 yr hwyr.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ar-lein drwy gyfrwng Microsoft Teams.
Mae croeso i unrhyw un ymuno ar-lein drwy adael i ’r Clerc wybod erbyn 14 Tachwedd 2021 er mwyn medru gwneud y trefniadau priodol.
Ebost: Cyngorllanfrothen@gmail.com
Ffon: 07957 513227
CYFARFOD ANGHENION TAI LLANFROTHEN
Mae ADRA yn ystyried datblygiad tai ar salfe ger Garreg Frech, Llanfrothen. Y cynnig presennol yw 8 uned, sydd wedi ei ostwng o 10 uned, gan fod ADRA yn meddwl fod hyn yn gweddu'n well gyda’r anghenion lleol. O fewn hyn, y cymysgedd tai fel y mae ar hyn o bryd yw 4 uned dwy lofft a 4 uned tair llofft. Mae ADRA yn agored i drafod y cymysgedd yma efo’r posibilrwydd o newid y cymysgedd i siwtio anghenion Llanfrothen.
Gweler isod gynllun arfaethedig o'r safle a dyluniau arfaethedig o'r tai all fod ar y safle.
Os hoffech fwy o wybodaeth am beth yw tai fforddiadwy a thai cymdeithasol (Tai Teg), yna ewch i https:/www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Tai/Tai.aspx
Cynlluniau Tai posibl Garreg Frech 1
Cynlluniau Tai posibl Garreg Frech 2
Cynlluniau Tai posibl Garreg Frech 3
Cynlluniau Tai posibl Garreg Frech 4
Cynlluniau Tai posibl Garreg Frech 5
Cynlluniau Tai posibl Garreg Frech 6
Cynlluniau Tai posibl Garreg Frech 7
Data Goryrru Llanfrothen Medi 2020
Hwyluswyr Tai Gwledig - Holiadur Anghenion Llanfrothen
Swydd Prentis Gerddi Plas Brondanw: Garddwr Cynorthwyol
Taith 1 - Garreg, Mosaig a Mwy
Taith 2 - Hen Blwyf Llanfrothen
Taith 3 - Gwenllian a'r Wern
Taith 4 - Y Llenor a'r Llechen