I'r mynydd a'r mannau anghysbell...
llanfrothenacroesor.org

Atyniadau Lleol

Mae plwyf Llanfrothen yn hynafol a chyn 1811 pan adeiladwyd y Cob roedd yn glwstwr o ynysoedd bychain, traethau, dyffrynnoedd cudd a phenrhynion caregog. Yma daeth Sant Brothen yn y 6ed ganrif i sefydlu ei eglwys nid nepell o’r hen ffordd Rufeinig. Credir fod yr eglwys bresennol yn dyddio o’r 13eg ganrif. Adnewyddwyd yr eglwys ym 1884 ac mae’n adeilad rhestredig gan Cadw. Ni chynhelir wasanaethau ynddi bellach ac eithrio adeg y Nadolig. Mae’r eglwys yng ngofal Cyfeillion Eglwysi Digyfaill.

Mae dau fedd y dylid sôn amdanynt yn y fynwent: bedd Robert Roberts a’r cysylltiad â David Lloyd George (cliciwch yma am fwy o hanes); a bedd Mary Jones, y forwyn ddeunaw oed a lofruddiwyd gan Thomas Edwards, sef yr Hwntw Mawr. Roedd Thomas Edwards yn gweithio ar y Cob. Aeth i ffermdy ger Portmeirion i ddwyn gan feddwl fod pawb allan yn y caeau. Ond roedd Mary y forwyn yn y tŷ yn paratoi bwyd a llofruddiodd Thomas hi. Ceisiodd ddianc dros y Traeth Mawr ond fe’i ddaliwyd  ac aethpwyd ag ef i’r carchar yn Nolgellau. Ef oedd y dyn olaf i’w grogi yn gyhoeddus yn Sir Feirionnydd ym 1813.

Mae bedd Robert Roberts ar y dde i’r llwybr o’r giât tuag at yr eglwys, ac mae bedd Mary Jones ar y dde i borth yr eglwys.

Daeth Syr Clough Williams-Ellis i fyw i Gymru gyda’i deulu pan oedd yn bedair oed ac arhosodd yn ardal Llanfrothen hyd ei farw ym 1978. Astudiodd Fathemateg yng Nghaergrawnt, ond pensaernïaeth aeth a’i fryd ac mae ei arddull nodweddiadol i’w gweld ymhobman yn y pentref. Cymeriad lliwgar – y trowsus pen-glin a’r sannau melyn! - ymroddodd ar hyd ei fywyd i warchod yr amgylchedd. Dan ei arweiniad adeiladwyd anheddau prydferth gan barchu’r dirwedd naturiol. Mae Portmeirion yn cyfleu hyn i’r dim.

Adeiladwyd Plas Bondanw gan un o hynafiaid Clough oddeutu 1550. Ym 1908 etifeddodd Clough y Plas gan ei dad a chredai rhai mai’r gerddi gwych yw campwaith greadigol bwysicaf Clough. Fe’i rhestrir ymhlith y deg gardd y dylid ymweld â nhw ym Mhrydain. Cliciwch yma i ymweld â’r wefan.

Gyferbyn â Phlas Brondanw mae llwybr sy’n arwain at Y Tŵr. Pan briododd Clough ag Amabel Strachey, gofynnodd pennaeth ei gatrawd iddo beth a hoffai ei gael yn anrheg priodas, a’i ateb oedd “wel, Syr, yr hyn fyddwn wir yn ei hoffi fyddai adfail. Mae 'na bentir creigiog ger fy nghartref ac mi hoffwn adeiladu tŵr arno er mwyn mwynhau'r golygfeydd godidog o gopa’r Wyddfa i lawr at y traethau.” A dyna fu. Cliciwch yma i weld ein llwybrau cerdded.

Mae’r mosaig mawr i’w weld ar wal y ganolfan y drws nesaf i Ysgol y Garreg. Cynlluniwyd  y mosaig gan yr artist lleol, Ann Smith, a bu hi’n ei greu gyda phlant yr ysgol yn 2009/10. Mae’r mosaig yn mesur 12 troedfedd wrth 8 troedfedd ac yn ei ganol mae portread o Syr Clough Williams-Ellis. Mae geiriau Clough i’w gweld yn y mosaig: “coleddu’r gorffennol, harddu’r presennol, adeiladu ar gyfer y dyfodol.” Gwnaethpwyd y mosaig gyda theils lliw, llechi a cherrig mân, ac mae’n darlunio’r elfennau hynny sy’n gwneud Llanfrothen yn lle arbennig. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am yr ysgol.

Ffestiniog & Welsh Highland Railways,
Harbour Station,
Porthmadog,
Gwynedd
LL49 9NF
www.festrail.co.uk
☎ 01766 516000

Daeth gweilch y pysgod i nythu ger Pont Croesor am y tro cyntaf yn 2004. Yn anffodus y tro hwnnw fe chwythwyd y nyth o’r goeden mewn tywydd garw. Y flwyddyn wedyn dychwelodd y pâr a llwyddasant i fagu dau gyw. Ers hynny mae dau walch yn dychwelyd i’r nyth bob blwyddyn, ar ôl hedfan filoedd o filltiroedd o Dde Affrica lle mae nhw’n treulio’r gaeaf. Erbyn hyn mae deunaw o gywion wedi cael eu magu ar y safle. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Bywyd Gwyllt Glaslyn.

Yng Nghroesor mae modd cychwyn i gerdded tri o fynyddoedd - y Cnicht (2,200 troedfedd), y Moelwyn Bach (2,329 troedfedd) a’r Moelwyn Mawr (2,526 troedfedd).
Mae hefyd llwybrau cerdded llai heriol yn yr ardal - cliciwch yma i weld ein llwybrau cerdded.
Mae llwybrau eraill i’w gweld ar fapiau Arolwg Ordnans Explorer OL18 a Landranger 124.

RHYBUDD - Mae’r tywydd yn medru newid yn gyflym iawn yn y mynyddoedd ac mae angen paratoi yn drwyadl a gwisgo dillad ac esgidiau addas. Nid oes signal ffôn ymhobman. Ewch i safle wê'r Parc Cenedlaethol am wybodaeth ynglyn â diogelwch ar y mynydd. Ewch i’r wefan ganlynol am ragolygon tywydd: cliciwch yma.

Mae gwefannau Cambrian Angling a Cymdeithas Pysgota Glaslyn yn rhoi gwybodaeth i bysgotwyr am afonydd a llynnoedd.

Mae’r ardal hon yn denu llawer o feicwyr ac mae’r B4410 o Lanfrothen i Faentwrog yn rhan o Lwybr 82 Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Cliciwch yma i ymweld â gwefan Sustrans. Gweler hefyd safle wê Parc Cenedlaethol Eryri.

 

Map y Teithiau


 

Gweld Teithiau Llanfrothen mewn map mwy

Teithiau Cerdded

Taith 1 - Garreg, Mosaig a Mwy

Taith 2 - Hen Blwyf Llanfrothen

Taith 3 - Gwenllian a'r Wern

Taith 4 - Y Llenor a'r Llechen

Cysylltu


☎ 01766 770882
ymholiad@llanfrothenacroesor.org

 

Bookmark and Share