"i'r mynydd a'r mannau anghysbell" Thomas Richards, Y Wern 1948 | llanfrothenacroesor.org |
Cyfarfod Blynyddol 2023
Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Cyngor Cymuned Llanfrothen, nos Fawrth 2 Mai, yn Y Ganolfan, Llanfrothen am 6:30 yr hwyr
Croeso i wefan Llanfrothen
Yma cewch wybodaeth am yr ardal ac am waith y Cyngor Cymuned yn ogystal â mapiau o lwybrau’r fro.
Sefydlwyd y wefan gan Gyngor Cymuned Llanfrothen. Cysylltwch â ni os hoffech gyfrannu i’r wefan.
Mae tir Llanfrothen yn ymledu o lannau’r Glaslyn ar hyd y Morfa Gwyllt gan ddringo hyd y bryniau i’r dwyrain, nes cyrraedd llethrau serth a chribau’r Cnicht a’r Moelwynion.
I’r de o’r ardal mae crib greigiog yn rhedeg tua’r dwyrain. Yn y gogledd-ddwyrain a’r gogledd mae Moelwyn Bach, Moelwyn Mawr, Cnicht a’r Wyddfa. Ac wedyn i gyfeiriad y gorllewin mae Moel Hebog, Moel Ddu a Moel y Gest yn arwain yn ôl at y môr a Bae Tremadog.
Cafodd Llanfrothen ei enw ar ôl Sant Brothen a sefydlodd eglwys yma yn y chweched neu’r seithfed ganrif.
Mae Llanfrothen yn cynnwys tri phentref sef Garreg, Croesor a Rhyd. Cliciwch yma i weld map o’r ardal.
Cais Cynllunio ADRA am 8 Tŷ - Cae Uwchben Garreg Frech, Llanfrothen
Er mwyn ceisio barn trigolion lleol ar y datblygiad yma, bwriada Cyngor Cymuned Llanfrothen gynnal sesiwn galw i mewn yn Y Ganolfan, Llanfrothen o 2 tan 6 y prynhawn ar ddydd Iau 24 Tachwedd, ble y medrir gwled cynlluniau o’r datblygiad.
Dyma gynllun lliniaru traffig posibl a gynllunwyd gan Gyngor Gwynedd ar gyfer lliniaru traffig yn Llanfrothen.
Sylwch nad oes bwriad gosod llinell wen ar ganol y ffordd, ond yn hytrach ar ochr y ffordd, gan fod tystiolaeth yn dangos fod y math yma o ddyluniad yn arafu traffig.
Croesawn unrhyw sylwadau, ac os oes gennych sylwadau fedrwch chi ebostio'r Clerc erbyn 24 Gorffennaf os gwelwch yn dda - Cyngorllanfrothen@gmail.com
Rhowch glic yma i lawr lwytho delwedd maint llawn (Adobe Reader .PDF)