"i'r mynydd a'r mannau anghysbell" Thomas Richards, Y Wern 1948 | llanfrothenacroesor.org |
Sefydlwyd Cyfeillion Croesor yn1998 fel mudiad cydweithredol i wella diwylliant, economi ac amgylchfyd Cwm Croesor. Dechreuwyd trwy wneud cae chwarae a gwella'r pwll nofio. Yn 2000 agorwyd siop pethau ail law, Siop Mela ym Mhenrhyndeudraeth, er mwyn codi arian at achosion da lleol ac i gefnogi’r mudiad. Yn 2001 prynwyd adeiladau fferm Bryn Gelynnen er mwyn eu haddasu at ddefnydd y gymuned. Erbyn 2007 roedd Caffi Croesor a’r toiledau wedi eu hagor ac ymhellach ymlaen yn 2008 agorwyd oriel yn y caffi.
Bu’r Cyfeillion yn cydweithio gyda Manweb, Pŵer Cenedlaethol a Stad Brondanw i gladdu gwifrau o dan y ddaear er mwyn harddu’r amgylchfyd.
Taith 1 - Garreg, Mosaig a Mwy
Taith 2 - Hen Blwyf Llanfrothen
Taith 3 - Gwenllian a'r Wern
Taith 4 - Y Llenor a'r Llechen