I'r mynydd a'r mannau anghysbell...
llanfrothenacroesor.org

Hanes

Cafodd y pentref ei enw gan Sant Brothen a oedd yn byw yn y 6ed/7fed ganrif ac a sefydlodd eglwys yma.

Ym 1910 darganfuwyd pennau gwaywffyn (o bosib yn dyddio yn ôl i 800CC), pensaeth fflint ac esgyrn carw dan greigiau Garreghylldrem. Disgrifir y safle fel gwersyll hela a ddefnyddiwyd yn rheolaidd ar un adeg. Yn agos i’r fan honno hefyd y daethpwyd o hyd i gregyn maharen, a chafodd rhain eu carbon ddyddio i tua 8,500 o flynyddoedd yn ôl.

Mae olion bryngaerau ar Foel Dinas ac Ynysfor yn ogystal ag olion cytiau crwn ac anheddau caeedig megis Ogof Llechwyn yma ac acw ar hyd y bryniau. Mae dogfennau yn cadarnhau fod nifer o anheddau cnewyllol wedi bodoli yn Llanfrothen yn yr oesoedd canol.

Ceir sôn am wythiennau plwm ym Mwlch y Plwm a gwythiennau copr ym Mhant-y-Wrach yn dyddio’n ôl i gyfnod y Rhufeiniaid.

Hyd at 1811 roedd Llanfrothen yn bentref ar lan y môr - ar lan y Traeth Mawr neu’r Morfa Gwyllt fel y’i gelwid. Roedd dynion yn ennill eu bywoliaeth fel ‘arweinwyr’ yn tywys ymwelwyr dros y traethau’n ddiogel. Ceir cofnod o Gapten William Siôn yn hwylio llong i’r Garreg ym 1774, a bod saer wedi adeiladu llong ym Mhwll Llong yn y Garreg. Hyd heddiw gellir gweld dolen haearn i ddiogelu cychod ger yr hen efail. Mor bell yn ôl â 1625 roedd sôn am godi morglawdd ac ym 1718 gofynwyd am hawl gan y Senedd i adennill y Traeth Mawr a’r Traeth Bach, ond yn ofer. Ym 1770 rhoddwyd cynnig arall arni ond methodd hwnnw hefyd. Ym 1807 cafodd William Madocks hawl gan y Senedd a dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu’r Cob ym 1809. Bu tua 400 o ddynion yn gweithio arno am bedair mlynedd ac mae’n debyg iddo gostio tua £100,000. Enillwyd dros 3,000 o aceri o dir o afael y môr. Roedd y Cob yn filltir o hyd ac yn hwyluso’r drafnidiaeth rhwng siroedd Meirionnydd a Chaernarfon a chodwyd porthladd newydd ym Mhorthmadog. Mae'r enwau sydd ar rai o’r tai a’r ffermydd hyd heddiw yn ein hatgoffa o ddylanwad y môr ar y pentref - enwau sy’n cynnwys geiriau megis ‘glan’, ‘ynys’, ‘morfa’ a ‘traeth’.

Roedd Llanfrothen yn lle pwysig iawn i’r porthmyn ar eu ffordd o Ben Llŷn i Lundain. Byddent yn aros yn y tafarndai lleol ac yn pedoli yn yr efail - ar un adeg roedd tair gefail yn yr ardal.

Nid yw’n bosib sôn am hanes Llanfrothen heb sôn am Syr Clough Williams-Ellis, y pensaer enwog a greodd Portmeirion. Mae ôl ei law fedrus a chreadigol yn amlwg yn y pentref - yr anheddau gwyn â phaent gwyrddlas. Dywedwyd rhywdro, “os mai Portmeirion ydi ei greadigaeth enwocaf, yna gerddi Plas Brondanw (ei gartref am dros 70 o flynyddoedd) ydi ei greadigaeth brydferthaf.” Cliciwch yma am bethau i'w gwneud.

Gŵr enwog arall fu â chysylltiad efo Llanfrothen oedd David Lloyd George. Ychydig ar ôl iddo gymhwyso fel cyfreithiwr gofynnodd teulu o’r pentref iddo eu cynrychioli mewn achos llys. Roedd y teulu am gladdu tad, a oedd yn Anghydffurfiwr, wrth ochr ei ferch yn Eglwys Sant Brothen. Gwrthodwyd eu cais gan y ficer a rhoddwyd clô ar giât y fynwent. Cynghorodd Lloyd George y teulu i dorri’r clô a chladdu’r tad, a dyna ddigwyddodd. Bu achos llys wedyn ac enillodd Lloyd George yr achos yn y Llys Apêl. Rhoddodd ei berfformiad disglair yno hwb sylweddol i’w yrfa boliticaidd. Bu’n brif weinidog Prydain o 1916 i 1922.

Ym 1953 daeth Jeremy Brooks (gŵr Eleanor Brooks - cliciwch yma am wybodaeth ynglŷn ag artistiaid a chrefftwyr lleol) i fyw i Lanfrothen ac fe’i claddwyd ym mynwent y pentref. Roedd yn ddramodydd, bardd ac awdur toreithog - ef ysgrifennodd y nofelau Jampot Smith a Henry’s War.

Am gyfnod byr ym 1998 bu R. S. Thomas y bardd yn byw yn Tŷ Main, Llanfrothen.

Cymeriad a wnaeth gyfraniad gwerthfawr i Lanfrothen trwy gofnodi tipyn o’i hanes oedd Ioan Brothen (1868-1940), neu John Jones i roi ei enw bedydd iddo. Gwas fferm ydoedd ac yna, fel Bob Owen, aeth i weithio i’r chwarel. Yno ymarferodd y grefft o englyna a barddoni. Roedd hefyd yn naturiaethwr o fri.

Dau bregethwr sy’n cael eu cysylltu â Llanfrothen ydi'r Parch. J. R. Jones, Ramoth (1765-1822) a 'r Parch. Richard Jones (1772-1833). Ym 1798 sefydlodd J. R. Jones y Bedyddwyr Albanaidd yn Llanfrothen. Roedd yn ddiwynydd, emynydd, cerddor a bardd ac un o’i ddisgyblion oedd Robert ap Gwilym Ddu. Symudodd Richard Jones a oedd yn weinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd i fyw i’r Wern ym 1820, ac roedd yntau yn fardd ac emynydd a’i enw barddol oedd Cymro Gwyllt.

Yn y Wern hefyd y bu Thomas Richards (1883-1958) yn byw ar ôl dychwelyd o’r Amerig. Roedd yn englynwr penigamp ac yn enillydd cyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac fe’i cofir yn bennaf am ei englyn ‘Y Ci Defaid’.

Yn yr un flwyddyn ag y bu Thomas Richards farw, ganwyd Robin Llywelyn a ddaeth yn llenor amlwg gan ennill Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1992 a 1994. Mae Robin yn ŵyr i Syr Clough Williams-Ellis a derbyniodd ei addysg gynradd yn Ysgol y Garreg, Llanfrothen. Erbyn hyn ef yw Rheolwr Gyfarwyddwr Portmeirion.

Pentref bychan chwarelyddol ydi Croesor, tua 2-3 milltir i’r gogledd o Lanfrothen. Yn tra-arglwyddiaethu uwchben y pentref mae mynyddoedd y Moelwynion a’r Cnicht a adnabyddir fel y “Welsh Matterhorn”.

Tyfodd y pentref yn ystod y 19eg ganrif pan oedd chwareli Croesor a Rhosydd yn eu hanterth.

Agorwyd chwarel Croesor ym 1856 ac o 1895 ymlaen cafodd gryn lewyrch dan reolaeth Moses Kellow, rheolwr olaf y chwarel. Mwy am y dyn hynod yma nes ymlaen! Ar un adeg roedd y chwarel yn cynhyrchu tua 5,000-6,000 o dunelli o lechi yn flynyddol. Defnyddiwyd y llechi ar gyfer toeau, simneiau, slabiau, lloriau, byrddau snwcer ac at bwrpasau addurnedig.

Caewyd y chwarel ym 1930 ac mae ôl y diwydiant i’w weld hyd heddiw. Mae’n bosib olrhain tramffordd gul a adeiladwyd ym 1864 ac sy’n ymestyn ar hyd y cwm. Yn ogystal gellir gweld y twnnel hiraf yn y diwydiant llechi ar gyfer gwaith ceffyl a throl, ac mae’r ddwy inclên hiraf yng Ngogledd Cymru ym mhen draw y cwm.

Roedd Moses Kellow yn ddyn o flaen ei oes. Peiriannydd arloesol a wnaeth gyfraniad amhrisiadwy i dechnoleg diwydiant llechi ydoedd: ef oedd y cyntaf i ddefnyddio trydan ar gyfer peiriannau yn y chwarel. Ym 1904 agorodd orsaf drydan at ddefnydd y chwarel a phentrefwyr Croesor. Dŵr o Lyn Cwm-y-Foel oedd yn pweru’r orsaf. Hefyd dyfeisiodd Kellow ddril a oedd yn defnyddio grym y dŵr i dyllu’r graig, a daeth hwn yn fyd-enwog.

Wrth sôn am Groesor fe gofiwn am Bob Owen a’r cyfraniad pwysig a wnaeth i ddiwylliant Cymru. Dyma ddisgrifiad byw iawn ohono a ymddangosodd mewn erthygl gan Geraint H. Jenkins yng nghylchgrawn ‘Ceredigion’ yn 2010 - “Prin fod geiriau i ddisgrifio’r rhyfeddod tanllyd hwn. Un bychan, cydnerth ac anniben ydoedd a chanddo fwstas cribog a gwallt blêr na welsai grib erioed. Yn gorwynt aflonydd, swnllyd a thrafferthus, bloeddiai’n uchel a di-baid...Rhegai fel trwper.” Yn Nhwll y Wenci yn Llanfrothen y ganwyd Bob Owen ond bu ei gysylltiad â Chroesor yn un agos iawn. Treuliodd 30 o flynyddoedd yn gweithio fel clerc yn y chwareli yno, ac yn Ael y Bryn y gwnaeth ei gartref ar ôl priodi ym 1923. Derbyniodd radd MA er Anrhydedd pan oedd yn 47 mlwydd oed ac yna OBE yn ddiweddarach. Bu farw ym 1962 yn 77 mlwydd oed. Llenor, hanesydd a llyfrbry’ heb ei ail a chymeriad hynod ac unigryw.

Bu Croesor yn ysbrydoliaeth i awduron eraill hefyd. Showell Styles yn un ohonynt, mynyddwr a dringwr wrth reddf ac awdur dros 160 o lyfrau. Patrick O’Brian hefyd, awdur, naturiaethwr, adarwr a physgotwr, ac er mai byr oedd ei arhosiad yng Nghroesor bu’r lle’n ysbrydoliaeth i’w ddawn greadigol. Mae ei nofel Testimonies wedi ei gosod yng Nghroesor. Awdur arall a fu’n byw yno am amser byr oedd Philip O’Connor ac ysgrifennodd gofiant o’i gyfnod yno, sef Living in Croesor.

Un o deuluoedd enwocaf Croesor yw’r Anwyliaid, teulu a oedd yn fawr ei ddylanwad ar Sir Feirionnydd yng nghyfnod y Tuduriaid a’r Stiwartiaid ac a oedd yn byw yn y Parc, sy’n dŷ rhestredig gan Cadw erbyn hyn. Mae Cae Glas hefyd wedi ei gofrestru ac yn enghraifft o ysgubor maes. Tŷ arall hynafol ydi Garreg Fawr a oedd ym meddiant teulu’r Wynniaid Gwydir.

Pentref bychan yw Rhyd, gyda thua ugain o dai. Mae ar yr ysgwydd ddwyreiniol o blwyf Llanfrothen a Chroesor, ar y B4410 o Lanfrothen i Dan y Bwlch, ar odre’r Moelwyn Bach. ‘Rhyd y Cyffiniau’ oedd yr enw gwreiddiol arno.

Ganrif yn ôl roedd yno gapel, swyddfa bost, siop ac ysgol. Caewyd yr ysgol ym 1944 pan nad oedd ond pedwar disgybl yno. Yn ystod y 1980au tai haf oedd y rhan fwyaf o’r tai. Fodd bynnag, erbyn hyn, mae cymuned fechan yn byw yno’n barhaol.

Uwchben Rhyd mae’r hen ffordd Rufeinig o Domen y Mur i Gaernarfon ac wrth ei hochr mae’r hen ffordd o Ddolgellau i Gaernarfon, a adeiladwyd tua diwedd y 16eg ganrif.

Am amser byr roedd gwaith brics prysur iawn yn Gors Goch ond bu’n aflwyddiannus a daeth y gwaith i ben yn sydyn iawn. Pan oedd gwaith plwm Penrallt yn ei anterth, tua canol y 19eg ganrif, gwnaed sianel i gario dŵr o Rhyd i droi’r peiriannau. Gwnaed ymgais hefyd i gloddio copr ond ni chafwyd llawer o lwyddiant.

Mae olion ychydig o gytiau Gwyddelod o gwmpas Rhyd ac roedd sôn bod gwrach yn byw yn un ohonynt, sef Mari’r Fantell Wen a fyddai’n twyllo pobl i weithio iddi am ychydig o gyflog. Mae’n debyg iddi gael ei hel o’r ardal gan y bobl.

Un o'r gweithfeydd sydd wedi gadael ei ôl ar yr ardal ydi gwaith plwm Bwlch y Plwm. Honnir mai’r Rhufeiniaid oedd y cyntaf i ddarganfod y gwythiennau plwm er mai ym 1577 y ceir y cofnod cyntaf ohonynt. O tua 1875 i 1921 pan gaewyd y pwll bu nifer o gwmnïau gwahanol yn cloddio yno. Mae’r siafftiau a’r ogofau erbyn hyn yn denu ogofawyr.

Mae sôn am ddwy gyflafan ym Maes Gwŷr Llŷn. Oesau yn ôl yn dilyn rhyfeloedd yn Llŷn bu prinder o ferched ac aeth gwŷr Llŷn ati i chwilio am wragedd. Dyma gyrraedd ardal Llanfrothen a llwyddo i ennill serch nifer o ferched yr ardal. ‘Doedd bechgyn yr ardal ddim yn hapus a gwbl a dyma godi byddin i ladd pob un o wŷr digywilydd Llŷn. Bu’n frwydr waedlyd ac er i wŷr Llŷn gael eu trechu, lladdwyd hefyd nifer o ferched Llanfrothen a gelwid y fan yn ‘Maes Gwŷr Llŷn’. Digwyddodd y frwydr arall tua diwedd y 12fed ganrif, rhwng dau o lwythi Gwynedd - meibion Owen Gwynedd, a Cadwaladr eu hewyrth. Bu hon hefyd yn frwydr waedlyd. Trechwyd Cadwaladr ac aeth nifer o wŷr Meirionnydd yn gaeth i Lŷn.

Mae’r hanes am frad a dial yn Ogof Llechwyn yn cael ei chofnodi yn History of the Gwydir Family gan Syr John Wynn. Roedd chwaer Hywel ap Rhys wedi priodi Ieuan ap Robert. Pan fu hi farw cynllwyniodd Hywel i ladd Ieuan, ond fe wyddai Ieuan am y cynllwyn. Danfonodd ei blentyn at offeiriad Llanfrothen, a oedd yn byw yn Ogof Llechwyn, i’w ddiogelu. Clywodd Hywel am hyn ac anfonodd gynorthwywraig i Ogof Llechwyn i ofyn am lety dros nos. Yng nghanol y nos clywwyd sgrechian o’r tŷ a’r ddynes yn cyhuddo'r offeiriad o ymosod arni. Roedd Hywel wedi gosod dau frawd iddi y tu allan i’r tŷ a phan ddaeth yr offeiriad allan yn y bore fe’i laddwyd am roi lloches i blentyn Ieuan.

 

 

Map y Teithiau


 

Gweld Teithiau Llanfrothen mewn map mwy

Teithiau Cerdded

Taith 1 - Garreg, Mosaig a Mwy

Taith 2 - Hen Blwyf Llanfrothen

Taith 3 - Gwenllian a'r Wern

Taith 4 - Y Llenor a'r Llechen

Cysylltu


☎ 01766 770882
ymholiad@llanfrothenacroesor.org

 

Bookmark and Share